Skip to main content

This job has expired

Chair of Research & Innovation Committee of Commission for Tertiary Education & Research

Employer
Commission for Tertiary Education & Research
Location
Wales
Salary
£366 Per Day Plus Expenses
Closing date
30 Sep 2022

View more

Sector
Education, Government
Responsibilities
Executive Management
Position/Level
Board
Contract Type
Part-time

Hybrid working

4 days per month

5-year term, renewable for a further 5-year term

£366 per day plus expenses

The soon to be created Commission for Tertiary Education & Research (CTER) will be an arm’s length body of Welsh Government bringing together the funding, oversight and regulation for further education, higher education, apprenticeships, sixth form and government funded research and innovation in one place, focused on learners and aligned to Welsh business and community needs. A world first, CTER will be a key, innovative body that has the opportunity to be an international exemplar and will strengthen relationships across the post-compulsory education sector and ensure both greater alignment and increased opportunities for learners. The body will have an estimated annual budget of c.£800m, one of the highest allocated budgets to an arm’s length body in Wales, and an ambitious vision for the sector unique to Wales. 

CTER will prioritise the interests of learners, supporting them to move seamlessly from compulsory to post-compulsory education and training and have a greater say in matters which affect them and their education. It will also support the complementary strengths of all learning providers and enable learners of all ages to access a full range of education and training opportunities. CTER will also need to take the lead in creating an accessible and effective TER system that supports learning, assessment and progression through the medium of Welsh and is central to Welsh cultural life as outlined in Cymraeg 2050.

This role offers an opportunity to lead the establishment of CTER’s Research & Innovation Committee (RIC) as it comes into being by April 2024 (subject to Royal Assent). The RIC will play an essential role in advising the CTER Board on how it exercises its research and innovation functions, and oversee strategy, policy and the allocation of funding for research and innovation in the tertiary education sector in Wales. Growing the scale, breadth and depth of our research and innovation base, through increased engagement between our universities, colleges and the private, public, and third sectors will form a key part of CTERs work.

The Chair of RIC will be Deputy Chair for the CTER Board supporting the Chair in delivering the Commission’s aims and objectives. Responsibilities will include the following:

  • Chair and facilitate RIC committee meetings, putting in place effective governance arrangements to ensure the principles of regularity, propriety and value for money
  • Lead the Research and Innovation (RIC) Committee in setting the strategic direction for the Commission’s Research & Innovation functions
  • Ensure the RIC acts within its agreed terms of reference and that any conflicts of interest are managed appropriately to ensure the integrity of the committee is always maintained
  • Deputise for the Chair in facilitating CTER Board meetings
  • Support the Chair in leading the CTER board in setting the strategic direction for the Commission and assess and evaluate the development and delivery of the organisation’s business strategy, plans and performance objectives as necessary
  • Engage fully in and support RIC and CTER’s stakeholder engagement activity, building relationships with sector leaders across Wales, the UK and internationally

Applicants will have:

  • A highly respected and inspirational senior leader with proven experience of driving forward the delivery of research and innovation
  • An understanding of the Welsh, UK and international research environment
  • A well-developed knowledge and understanding of post compulsory education and training
  • Excellent track record of engaging and inspiring stakeholders that demonstrates an inclusive and collaborative approach, including working in partnership with staff representatives
  • The ability to speak Welsh or the commitment to learn the language to a basic level, with support

The time commitment includes time for board meetings, preparation, events, stakeholder meetings and sub-committee meetings. The closing date for applications is 4pm - Friday, 30th September 2022.

For further details and to apply please go to http://wales.gov.uk/publicappointments or for queries please contact the Odgers Berndtson team in Cardiff on 02920 783 050 or email OdgersWalesPractice@odgersberndtson.com

All applications will be acknowledged.

Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi / Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil        

Gweithio hybrid

4 diwrnod y mis

Tymor 5 mlynedd – bydd modd adnewyddu’r cytundeb am dymor 5 mlynedd pellach

£366 y diwrnod yn ogystal â chostau

Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, sydd i gael ei greu yn fuan, yn gorff hyd braich i Lywodraeth Cymru, a bydd yn dwyn ynghyd y swyddogaethau cyllid, goruchwylio a rheoleiddio ar gyfer addysg bellach, addysg uwch, prentisiaethau, chweched dosbarth, a gwaith ymchwil ac arloesi a ariennir gan y llywodraeth, gan ganolbwyntio ar y dysgwr, ac mewn ffordd sy’n ystyried anghenion busnes a chymunedol Cymru. Bydd y Comisiwn yn gorff arloesol allweddol a allai fod yn esiampl ryngwladol, gan mai dyma’r cyntaf o’i fath, a bydd yn cryfhau’r cysylltiadau ar draws y sector addysg ôl-orfodol ac yn sicrhau mwy o gysondeb a chyfleoedd i ddysgwyr.  Amcangyfrifir y bydd cyllideb flynyddol o tua £800m ar gyfer y corff, un o'r cyllidebau uchaf i’w dyrannu i gorff hyd braich yng Nghymru, a bydd ganddo weledigaeth uchelgeisiol gyfer y sector a fydd yn unigryw i Gymru. 

Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn blaenoriaethu buddiannau dysgwyr, ac yn eu cefnogi i symud yn llyfn o addysg a hyfforddiant gorfodol i addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, a chael mwy o lais mewn materion sy'n effeithio arnyn nhw a'u haddysg. Bydd hefyd yn cefnogi cryfderau pob darparwr dysgu, pob un yn ategu’i gilydd, ac yn galluogi dysgwyr o bob oed i gael mynediad at ystod lawn o gyfleoedd addysg a hyfforddiant. Bydd angen i’r Comisiwn hefyd arwain y gwaith o greu system Addysg Drydyddol ac Ymchwil sy’n hygyrch ac yn effeithiol, sy'n cefnogi dysgu, asesu a chynnydd drwy gyfrwng y Gymraeg, ac sy'n ganolog i fywyd diwylliannol Cymru fel sydd wedi’i amlinellu yn Cymraeg 2050.

Mae'r rôl hon yn gyfle i arwain y gwaith o sefydlu Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, a fydd yn weithredol erbyn Ebrill 2024 (yn amodol ar Gydsyniad Brenhinol). Bydd y Pwyllgor yn chwarae rôl hanfodol o ran cynghori Bwrdd y Comisiwn ynghylch sut i arfer ei swyddogaethau ymchwil ac arloesi, a goruchwylio strategaeth, polisi a dyrannu cyllid ar gyfer gwaith ymchwil ac arloesi yn y sector addysg drydyddol yng Nghymru. Bydd datblygu ein sylfaen ymchwil ac arloesi o ran graddfa, ehangder a dyfnder, drwy fwy o ymgysylltu rhwng ein prifysgolion, ein colegau a'r sector preifat, y sector cyhoeddus, a'r trydydd sector yn rhan allweddol o waith y Comisiwn.

Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi yn Ddirprwy Gadeirydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil, gan gefnogi’r Cadeirydd i gyflawni nodau ac amcanion y Comisiwn. Ymhlith y cyfrifoldebau fydd y canlynol:

  • Cadeirio a hwyluso cyfarfodydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi, gan sefydlu trefniadau llywodraethiant effeithiol i sicrhau egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian
  • Arwain y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesi o ran pennu cyfeiriad strategol swyddogaethau ymchwil ac arloesi’r Comisiwn
  • Sicrhau bod y Pwyllgor yn gweithredu o fewn y cylch gorchwyl y cytunwyd arno a bod unrhyw wrthdaro buddiannau yn cael ei reoli’n briodol er mwyn sicrhau uniondeb y Pwyllgor bob amser
  • Dirprwyo ar ran y Cadeirydd i hwyluso cyfarfodydd Bwrdd y Comisiwn
  • Cefnogi’r Cadeirydd i arwain Bwrdd y Comisiwn o ran pennu cyfeiriad strategol y Comisiwn ac asesu a gwerthuso’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth fusnes, cynlluniau ac amcanion perfformiad y sefydliad, yn ôl yr angen
  • Cefnogi ac ymroi’n llawn i weithgarwch y Pwyllgor a’r Comisiwn i ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan feithrin perthynas ag arweinwyr y sector ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol

Bydd gan ymgeiswyr:

  • Record fel arweinwyr ysbrydoledig ac uchel eu parch o yrru gwaith ymchwil ac arloesi yn ei flaen
  • Dealltwriaeth o amgylchedd ymchwil Cymru, y DU ac yn rhyngwladol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth aeddfed o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol
  • Record wych o ymgysylltu â rhanddeiliaid a’u hysbrydoli, mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff
  • Y gallu i siarad Cymraeg neu'r ymrwymiad i ddysgu'r iaith i lefel sylfaenol, gyda chefnogaeth

Mae'r ymrwymiad amser yn cynnwys amser ar gyfer cyfarfodydd bwrdd, paratoi, digwyddiadau, cyfarfodydd rhanddeiliaid a chyfarfodydd is-bwyllgorau. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 4pm – Dydd Gwener, 30 Medi 2022. Am fanylion pellach ac i wneud cais ewch i http://wales.gov.uk/publicappointments neu os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â thîm Odgers Berndtson yng Nghaerdydd ar 02920 783 050 neu e-bostiwch OdgersWalesPractice@odgersberndtson.com. Byddwn yn cydnabod pob cais.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert